Cymraeg/Welsh

Saif Greenberry Café ar stryd fawr Primrose Hill (neu Fryn y Briallu inni’r Cymry sy’n cofio fel y bu i Iolo Morganwg gynnal Gorsedd y Beirdd yno am y tro cyntaf yn 1792). Morfudd Richards, Cymraes o Gricieth sy’n ei redeg ers 2012 (‘M’ i’w chydnabod a’i chwsmeriaid). Cyn sefydlu Greenberry, bwriodd Morfudd ei phrentisiaeth yn gweithio mewn sawl tŷ bwyta yn Llundain, gan gynnwys  Jo Allen, Le Caprice a The Ivy yn Covent Garden, cyn sefydlu ei thŷ bwyta cyntaf  Lola’s yn Islington, ac yna Lomo yn Chelsea. 

Trawsnewidiodd Morfudd The Old Russian Tea Rooms yn gaffi cymunedol agos atoch ac mae’n lle hynod boblogaidd i drigolion a theuluoedd Primrose Hill. Mae Greenberry ar agor o fore gwyn tan nos, a’r 

fwydlen amrywiol yn cynnig bwydydd iach, tymhorol mewn awyrgylch ffwrdd-a-hi. 

Rhoddir pwyslais ar ar wasanaeth ardderchog  ac ar ddewis a dethol y cynhwysion yn ofalus gan gefnogi cynhyrchwyr sy’n ofalgar o’r amgylchfyd ac sy’n cynhyrchu’n gynaladwy. 

Mae Greenberry yn enwog am brydau clasurol — yr hen ffefrynnau — ond mae yma addasu’r fwydlen yn ôl y tymhorau. Mae yma rhywbeth at ddant pawb, a chroeso cynnes. 

Fel siaradwr Cymraeg, toes dim yn well gan Morfudd na chael cyfle i sgwrsio yn ei mamiaith yn Greenberry. Mae Jack, rheolwr y tŷ bwyta hefyd yn hen law ar gyfarch y Cymry gyda’i  ‘Croeso’ a ‘Sut mai?’

Felly dewch i’n cornel fach Gymreig ni o Primrose Hill! Bydd y croeso yn gynnes.